Bydd cennau o bwys rhyngwladol yn cael eu colli yng nghoetir y Parc Cenedlaethol oni bai bod camau yn cael eu cymryd i adfer yr amodau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

Dyna neges ecolegwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a rheolwyr safle Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Tycanol yn un o chwech porfa goediog o bwys rhyngwladol ar gyfer y 400 o rywogaethau cen sy’n tyfu yma.

Mae cennau yn ffynnu mewn amodau agored a golau, ond mae’r amodau hyn yn diflannu’n gyflym yn Nhycanol wrth i’r canopi coed dyfu’n fwy trwchus.

Mae’n rhaid i Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n berchen ar y safle, a Chyngor Cefn Gwlad sy’n ei reoli, weithredu i achub y cennau. Mae rhaglen o waith rheoli, gan gynnwys cwympo nifer o goed, yn dechrau yn y gaeaf ac mae’r ddau sefydliad yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i esbonio pam fod y gwaith hwn mor bwysig.

Dywedodd Swyddog Coetir y Parc Cenedlaethol, Celia Thomas: “Er ei fod yn edrych yn ‘Zen’ a heddychol iawn, mae’r gorchudd mwsoglyd o dan y coed yn cystadlu yn erbyn y cennau sydd wedi dynodi’r safle yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfa Natur Genedlaethol ac Ardal Gadwraeth Arbennig.

“Mae pori gan ddefaid wedi helpu i gynnal a chadw’r amodau agored ac mae’n rhan bwysig o reoli safle Tycanol. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi atal y coed rhag tyfu’n drwchus felly mae’n rhaid i ni weithredu nawr i ailagor y llanerchi coll a theneuo’r canopi coed er mwyn galluogi mwy o olau i gyrraedd y cerrig a’r boncyffion lle tyfa’r cennau.

“Mae pobl fel arfer yn brawychu pan fod yn rhaid cwympo coed, ond byddwn ni’n gweithio’n galed i sicrhau cydbwysedd rhwng cael gwared ar ychydig o’r coed a chadw naws Tycanol.”

Cynhelir y cyfarfodydd agored ddydd Gwener Hydref 7 am 6.30pm, yn Neuadd Bentref Brynberian, a dydd Sadwrn Hydref 8 am 3pm, pan fydd Celia a Paul Culyer o Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn tywys taith gerdded o’r maes parcio preifat ger Ffermdy Tycanol, er mwyn esbonio’r cynlluniau rheoli.