Mae’n ymddangos bod wal sy’n cynnwys yr arwydd hanesyddol ‘Cofiwch Dryweryn’ wedi ei difrodi eto, yn dilyn gwaith i’w adfer gan ymgyrchwyr rhai wythnosau yn ôl.

Mae llun sydd wedi dod i law golwg360 yn dangos bod y llythrennau ‘AGARI’ wedi eu paentio mewn gwyn o dan yr arwydd enwog sydd i’w weld ar wal ger ffordd yr A487 rhwng Llanrhystud ac Aberystwyth.

Mae’r gofeb, a gafodd ei phaentio yn wreiddiol gan Meic Stephens, wedi cael ei fandaleiddio sawl tro yn y gorffennol.

Yn fwy diweddar fe gafodd yr arwydd ei disodli gan y gair ‘Elvis’, cyn i griw o bobol ifanc ddod i’w adfer liw nos.

Mae llawer wedi galw am ddiogelu’r gofeb, drwy ei hychwanegu at restr o gofebion Llywodraeth Cymru.

‘Arafwch Llywodraeth Cymru’

Yn ôl Elfed Wyn Jones, un o’r criw a ailbaentiodd y wal ym mis Chwefror, mae wedi ei “siomi’n arw” yn dilyn yr achos diweddaraf o ddifrodi.

“Dw i’n meddwl mai un o’r pethau sy’n rhwbio’r halen yn y briw ydy’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi bod mor araf yn ymateb,” meddai wrth golwg360.

“Os byddai Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn syth i’r busnes yma, yna efallai na fyddwn i’n gorfod cymryd diwrnod o’n bywydau ni i fynd allan a’i baentio fo.

“Edrychwch ar y wal Banksy. Unwaith y gwnaethon nhw ffeindio allan bod Banksy wedi paentio’r wal yma, ddaru nhw daflu pob un syniad ato fo. Fe wnaethon nhw gynnig miloedd i’w amddiffyn o…

“Yr unig beth rydan ni’n gofyn amdano, yn sylfaenol, fasa plac, jyst i ddweud beth yw pwrpas y wal. Mae’r bobol sy’n gwneud y pethau yma ddim yn gwybod beth yw gwerth y wal a ddim yn gwybod beth mae hi’n ei golygu.”

‘Rhestru ddim yn addas’

“Cafodd cyfarfod adeiladol ei gynnal gydag aelodau o Gyngor Cymuned Llanrhystud ynglŷn â dyfodol Wal ‘Cofiwch Dryweryn’,” meddai llefarydd ar ran Cadw.

“Fe gytunwyd yn y cyfarfod na fyddai rhestru yn cynnig y math o adfer sydd ei angen ar y safle, ac y byddai hynny’n gwneud rheoli’r safle yn yr hirdymor yn fwy anodd.

“Mae angen datrysiad mwy arloesol, ac mae Cyngor Cymuned Llanrhystud ar hyn o bryd yn cydweithio â phartneriaid, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i greu cynllun rheoli hirdymor ar gyfer y safle.”