Fe fydd Cynhadledd Lafur Cymru yn dechrau yn Llandudno heno (Ebrill 12) gyda Brexit a’r economi yn hawlio’r sylw.

Dyma fydd cynhadledd gyntaf arweinydd y blaid a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ers i Carwyn Jones gamu o’r neilltu bedwar mis yn ôl.

Fe fydd rhaglen newydd y Llywodraeth yn cael ei thrafod, a bydd ei arweinydd newydd yn gobeithio creu cryn argraff ar ei blaid.

Trafod polisïau

Dros y penwythnos bydd chwe thrafodaeth yn benodol ar bolisïau’r Blaid:

–     Dadl Polisi 1: Yr Economi, Trafnidiaeth a Seilwaith

–     Dadl Polisi 2: Addysg a Dysgu Gydol Oes

–     Dadl Polisi 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol

–     Dadl Polisi 4: Tai, Llywodraeth Leol a Chymunedau

–     Dadl Polisi 5: Trethi, Cyllid a Brexit Cymru

–     Dadl Polisi 6: Yr Amgylchedd, yr Iaith Gymraeg a Diwylliant

Rhwng y trafodaethau bydd cyflwyniadau ac areithiau gan Mark Drakeford AC, arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, Christina Rees AS, y dirprwy arweinydd Carolyn Harris AC, a’r Cynghorydd Debbie Wilcox o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

“Cryfhau”

Yn ôl y sylwebydd gwleidyddol, Gareth Hughes, mewn cyfweliad yn Golwg, bydd yn rhaid i Mark Drakeford ddarbwyllo’r blaid eu bod yn mynd i “gryfhau” o dan ei arweiniad.

“Mae’n rhaid iddo fo ddatblygu’r polisïau ddaru fo son amdanyn nhw yn ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth. Mae’n rhaid iddo fo ddatblygu’r rheiny i’r blaid gyfan.

“Mae’n rhaid iddo fo ddweud: ‘Dyma dw i’n sefyll am ac yn anelu i’w wneud, a dyna pam dw i’n meddwl bod y blaid yn mynd i gryfhau yn fy nwylo ‘i.”

Dywed Gareth Hughes hefyd sut mae cynhadledd Lafur yng Nghymru yn wahanol i’r pleidiau eraill.

“Mae cynhadledd Lafur yn wahanol i’r rhai eraill. Gan fod Llafur yn llywodraethu – ac wedi bod yn llywodraethu – mae’r dadlau ar bolisïau yn bwysig,” meddai.

“Os ydyn nhw’n cael eu pasio yn y gynhadledd mae’n ddigon posib y byddan nhw yn rhaglen y llywodraeth yn y pendraw.”