Fe fydd y weithred o dynnu lluniau i fyny dillad person heb eu caniatâd – neu upskirting – yn cael ei wneud yn drosedd benodol yng Nghymru a Lloegr o heddiw (dydd Gwener, Ebrill 12) ymlaen.

Roedd pensiynwr a phlant mor ifanc â saith oed ymhlith nifer cynyddol o bobl sydd wedi dioddef achosion o’r fath yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigurau newydd gan yr heddlu.

Yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law’r Press Association, roedd dioddefwyr wedi cael eu targedu mewn siopau, yn y gwaith, ar y stryd a hyd yn oed yn yr ysgol yn ystod 2018. Dim ond llond llaw o’r achosion oedd wedi arwain at gyhuddiad troseddol.

Fe fydd y weithred yn dod yn drosedd benodol a gallai arwain at hyd at ddwy flynedd yn y carchar. Mae’n dilyn ymgyrch gan yr awdur Gina Martin, 27 oed, sydd wedi bod yn brwydro i wneud y weithred yn drosedd ar ôl i ddau ddyn dynnu llun i fyny ei sgert mewn gŵyl yn 2017.

Roedd ymgyrchwyr wedi dadlau bod diffyg trosedd benodol ar gyfer y weithred wedi atal dioddefwyr rhag mynd at yr heddlu, tra bod rhai swyddogion yr heddlu wedi dweud nad oedden nhw’n siŵr sut i ymchwilio i’r honiadau.

Mae’r ffigurau newydd yn dangos bod 25 o’r 43 o luoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi cofnodi honiadau o upskirting yn ystod 2018, o’i gymharu â 15 o luoedd yr heddlu yn y ddwy flynedd flaenorol.