Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi mai Cymraeg yn unig fydd cyfrwng addysgu y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Bro Pedr o fis Medi 2019.

O dan y drefn bresennol, mae disgyblion Cymraeg a Saesneg sy’n cael eu trosglwyddo o’r Dosbarth Derbyn i flwyddyn 1 yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau ar wahân.

Ond ar ôl i ymgynghoriad ar ddechrau’r flwyddyn dderbyn dim un gwrthwynebiad i’r newid, mae Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo’r cynnig i wneud y Gymraeg yn unig yn gyfrwng addysgu’r Cyfnod Sylfaen.

Bydd dosbarthiadau Cymraeg a Saesneg wedyn yn parhau yng nghyfnod allweddol dau.

“Mae’n braf ein bod wedi gallu gwneud y penderfyniad yma ar ôl derbyn dim gwrthwynebiad i’r cynnig,” meddai’r Cynghorydd Catrin Miles, aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes.

“Mae hyn yn gam positif a phwysig yn hybu addysg a defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion.”