Doedd Cyngor Môn ddim wedi archwilio posibiliadau eraill yn gydwybodol, nac ystyried effaith cau Ysgol Bodffordd ar y gymuned, meddai Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Llywodraethwyr a Rhieni’r ysgol.

O ganlyniad mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cadarnhau y bydd ei swyddogion yn cynnal ymchwiliad i’r gŵyn nad oedd Cyngor Môn wedi cad war ofynion y Côd Trafnidiaeth Ysgolion.

“Mae Cyngor Ynys Môn wedi methu yn ei ddyletswyddau o dan y Côd mewn ymdrech i ddenu cyllid ar gyfer ysgolion newydd yn Llangefni,” meddai Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith.

“Mae mawr angen yr adeiladau newydd yn Llangefni, ond nid yw’n deg, nac yn gyfreithlon, fod cymunedau gwledig o gwmpas y dref i fod i ddioddef o ganlyniad.”

Côd Trafnidiaeth Ysgolion

Fe gyflwynodd Kirsty Williams y Côd Trafnidiaeth Ysgolion ym mis Tachwedd y llynedd.

Ynddo, roedd rhagdybiaeth o blaid gadw ysgolion gwledig ar agor. Fodd bynnag, yn ôl Cymdeithas yr Iaith – cafodd y broses ymgynghorol am ysgolion Bodffordd a Thalwrn ei gynnal o dan fersiwn flaenorol y Cod o 2013.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn pwyntio allan bod dyletswydd ar gynghorau lleol, o dan y côd hen a newydd, i “ystyried yn fanwl pob opsiwn arall cyn cau ysgol”, i “fod yn agored i bosibiliadau newydd sy’n codi o broses ymgynghorol” ac i ystyried “effaith cau’r ysgol ar y gymuned a’r iaith Gymraeg.”

“89% o’r plant o aelwydydd Cymraeg”

“Os gellir cau ysgol boblogaidd a llawn fel Bodffordd lle mae 89% o’r plant o aelwydydd Cymraeg, go brin fod unrhyw ysgol wledig yn ddiogel a bydd strategaeth Kirsty Williams o blaid ysgolion gwledig yn ddiystyr,” meddai Ffred Ffransis.

Yn ol Ffred Ffransis “nid yw cynnal cyfarfod i drafod dyfodol” Ysgol Bodffordd gyfystyr ag “asesu effaith cau’r ysgol ar y gymuned”.

Yn dilyn cwyn Cymdeithas yr Iaith mae Kirsty Williams wedi galw ar ei swyddogion i ystyried y materion a gweld sut mae gweithredoedd Cyngor Môn yn ffitio gyda’r Côd.

“bydd fy swyddogion yn ysgrifennu at Gyngor Ynys Môn i roi gwybod bod cwyn wedi dod i law ac i ofyn am unrhyw wybodaeth bellach yr ydym yn ystyried ei bod yn angenrheidiol,” meddai.