Fe fydd plismona’r Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf yn fwy o her na chadw trefn yn ystod y terfysgoedd ar strydoedd Lloegr, yn ôl pennaeth Heddlu Dyfed Powys.

Roedd  tua 16,000 o blismyn, o luoedd ar draws y DU, wedi helpu i ddelio â’r terfysgoedd dros yr haf mewn dinasoedd fel Llundain, Birmingham a Bryste.

Dywedodd pennaeth Heddlu Dyfed Powys, Ian Arundale, bod cynlluniau plismona’r DU ar gyfer digwyddiadau mawr yn seiliedig ar bawb yn cyfrannu ac anfon adnoddau i le bynnag roedd eu hangen.

Ond mae’n rhybuddio y gall toriadau’r Llywodraeth olygu problemau wrth blismona’r  Gemau yn 2012 os ydy plismyn o ranbarthau eraill yn cael eu galw i Lundain.

Dywedodd Ian Arundale: “Cafodd 16,000 o blismyn eu galw i helpu gyda’r terfysgoedd. Dyna nifer y plismyn rydan ni’n amcangyfrif fyddan ni’n ei golli yng Nghymru a Lloegr.”

Yn ogystal â darparu  gwasanaeth o ddydd-i-ddydd, meddai, mae’n rhaid anfon plismyn i ddelio â digwyddiadau fel y terfysgoedd yn Lloegr.

Dywedodd y byddan nhw’n wynebu’r un her y flwyddyn nesaf gyda’r Gemau Olympaidd ond fe fydd yn “llawer anoddach” i’w reoli yn 2012 gan fod rhan helaeth y swyddi yn diflannu rhwng nawr a diwedd yr arolygiad gwariant.

“Dwi ddim yn dweud na allen ni ei wneud, ond mi fydd hi’n llawer anoddach,” meddai.