Pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg ar ei ffordd i Gasnewydd

Diweddarwyd am  
Disgybl yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu codi pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg, gan gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion cynradd Cymraeg ledled y ddinas gan 50%.

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y cyngor yn cynnwys ymrwymiad i ehangu’r ddarpariaeth gynradd.

Bydd bron £6m yn cael ei fuddsoddi yn yr ysgol Gymraeg newydd a dwy ysgol arall yng ngorllewin y ddinas.

Y cynnig 

  • Yr ysgol Gymraeg newydd i gael ei datblygu ar safle presennol Ysgol Gynradd Pillgwenlli. Yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £3m, bydd yr ysgol yn cael ei sefydlu yno ym mis Medi 2022 fel ysgol gynradd â dau ddosbarth mynediad gydag uned drochi a chanolfan adnoddau dysgu;
  • Er mwyn cefnogi’r cynnig hwn, byddai Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn symud i gyfleusterau newydd ar ddatblygiad Whiteheads yn gynnar yn 2022;
  • Hefyd cynigir y bydd egin ysgol yn cael ei sefydlu o fis Medi 2020 yn yr adeilad babanod gwag yn Caerleon Lodge Hill;
  • Byddai arian hefyd yn cael ei fuddsoddi yn Ysgol Gynradd Parc Tredegar, gan ei chynyddu i ysgol â dau ddosbarth mynediad a hanner.

Addysg

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd 2019