Mae awdurdodau Prifysgol Aberystwyth yn gwrthod rhoi rhagor o fanylion am gyfres o ymchwiliadau sydd ar droed i broblemau’n ymwneud ag adeiladau ac eiddo’r Brifysgol.

Mae Golwg 360 wedi gweld geiriad neges sydd wedi ei hanfon at holl staff y brifysgol yn eu rhybuddio am yr ymchwiliadau – ond does dim manylion am natur yr ymchwiliadau hynny na’r problemau y tu cefn iddyn nhw.

Fe gafodd e-bost mewnol ei anfon at staff heddiw yn esbonio fod Prifysgol Aberystwyth wedi dechrau cyfres o ymchwiliadau mewnol, yn dilyn darganfyddiadau adolygiad manwl gan Is-Ganghellor newydd y Brifysgol.

‘Ymchwiliadau ar y gweill’

Yn ôl yr e-bost hwnnw, “mae nifer o  ymchwiliadau ar y gweill i nifer o weithgareddau masnachol neu weithredol, sydd wedi dod i’r amlwg yn dilyn adolygiad mewnol o ystadau’r Brifysgol gan yr Is-Ganghellor newydd”.

Dim ond ar 1 Awst y dechreuodd yr Is-Ganghellor newydd, yr Athro April McMahon, ar ei swydd gan olynu’r Athro Noel Lloyd, CBE, a fu’n dal y swydd ers mis Medi 2004.

Yn dilyn ymholiadau pellach gan Golwg 360, fe ddaeth datganiad gan lefarydd ar ran y Brifysgol yn adleisio cynnwys yr e-bost.

Roedd yn dweud bod “aelodau o staff y Brifysgol yn cydweithio gyda’r ymchwiliadau ar hyn o bryd, ac mae’n debygol y byddant yn treulio llawer o’u hamser yn gwneud hyn tra bydd yr ymchwiliadau yn mynd rhagddynt.

“Gan fod yr ymchwiliadau yma yn mynd yn eu blaen, does dim llawer mwy y gallwn ei ddweud ar hyn o bryd.”

Doedd y Brifysgol ddim yn dymuno gwneud unrhyw sylw pellach.