Fe fydd y cyfarwyddwr ffilm o’r Almaen, Werner Herzog, yn ymweld ag ardal y Mynydd Du yng Nghymru wrth dalu teyrnged i’w ddiweddar gyfaill, Bruce Chatwin, mewn rhaglen ddogfen.

Roedd Bruce Chatwin yn nofelydd ac yn awdur llyfrau teithio a deithiodd yn eang ledled y byd cyn ei farwolaeth yn 48 oed yn 1989.

Tra oedd yn dioddef o salwch, fe gyflwynodd ei rycsac i Werner Herzog fel arwydd o’u cyfeillgarwch, ac fe fydd y rycsac hwnnw yn ymddangos yn y rhaglen ddogfen sy’n dynodi tri degawd ers colli Bruce Chatwin.

Mae disgwyl i’r rhaglen ymweld â lleoliadau ledled y byd, gan gynnwys Awstralia, Patagonia a’r Mynydd Du – sef lleoliad un o nofelau enwocaf Bruce Chatwin, On the Black Hill.

“Roedd Bruce Chatwin yn llenor heb ei debyg,” meddai Werner Herzog.

“Roedd e’n troi straeon mytholegol i mewn i deithiau’r meddwl. Roeddem ni o’r un anian – y fe fel ysgrifennwr, a fi fel gwneuthurwr ffilm.

“Roeddwn i eisiau gwneud ffilm sydd ddim yn fywgraffiad traddodiadol, ond yn gyfres o ymweliadau sydd wedi eu hysbrydoli gan syniadau a theithiau Bruce.”

Bydd In The Footsteps Of Bruce Chatwin yn cael ei darlledu ar BBC2 yn hwyrach yn y flwyddyn.