Mae cyn cyfarwyddwr Sefydlaid Cerddoriaeth Cymru (WMF) a ffigwr mawr ym myd cerddorol Cymru a gwledydd Prydain, Alan James, wedi marw yn 62 oed.

Bu farw fore Sul (Ebrill 7) yn dilyn cyfnod byr yn dioddef o sgil-effeithiau strôc, ac mae teyrngedau lu wedi eu rhoi iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Chwaraeodd Alan James ran allweddol yn sefydlu rhai o wyliau cerddorol a chelfyddydol mwyaf gwledydd Prydain fel The Big Chill a WOMAD.

Bu hefyd yn rhaglennu yn y Midlans Arts Centre ym Mirmingham cyn ymuno a Chyngor Celfyddydol Lloegr ble’r oedd yn bennaeth ar gerddoriaeth gyfoes.

Yn dilyn, fe ddaeth yn gyfarwyddwr ar Sefydliad Cerddoriaeth Cymru a Cerdd Cymru – partneriaeth wnaeth wahodd gŵyl WOMEX i Gaerdydd yn 2013.

https://realworldrecords.com/news/remembering-alan-james/?fbclid=IwAR3S9_uo2wvCTomy6QdrPC2Er5XTwugywe10U_eMYVc3u4YZwbWgdEF41X4