Meri Huws
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi mai Meri Huws fydd Comisiynydd cyntaf y Gymraeg.

Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu system newydd o reoleiddio, a fydd yn seiliedig ar safonau, er mwyn darparu gwasanaethau iaith Gymraeg i’r cyhoedd.  Bydd y Comisiynydd hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ar y polisi iaith a bydd yn medru ymchwilio i amryw o faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

‘Eiriolwr ardderchog’

Dywedodd Carwyn Jones: “Dw i’n falch iawn o gyhoeddi mai Meri Huws fydd Comisiynydd cyntaf y Gymraeg.  Dw i’n hyderus y bydd yn dod ag ystod eang o brofiadau perthnasol, ynghyd â brwdfrydedd mawr, i’r rôl hon.  Fe fydd hi’n eiriolwr ardderchog dros y Gymraeg.
“Mae’r swydd newydd hon yn hollbwysig i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru, sef sicrhau iaith Gymraeg fyw a ffyniannus.”

‘Cryfhau’r Gymraeg’
Ar hyn o bryd, Meri Huws yw Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a dywedodd:
“Dw i wrth fy modd fy mod i wedi cael fy mhenodi i’r rôl hynod bwysig hon. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau Cymru i ddatblygu’r system newydd o safonau.
“Bydda i’n mynd ati i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi’i wneud gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac eraill er mwyn cryfhau’r Gymraeg a sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu.”
Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, Sgiliau a’r Gymraeg:
“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda Ms Huws yn y dyfodol.  Gan ein bod wedi gallu penodi mor gynnar â hyn, fe all hi gyfrannu at y gwaith pwysig sydd o’n blaenau a’n helpu ni gynllunio ar gyfer datblygu swyddfa’r Comisiynydd.  Mae trafodaethau eisoes yn cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg ynghylch hynny.”

Fe fydd ei rôl yn cynnwys canolbwyntio ar y system reoleiddio newydd, monitro perfformiad cyrff, ymdrin â chwynion gan aelodau o’r cyhoedd ynglŷn â  methiant i gydymffurfio â safonau, cynghori a hybu arfer da ymysg cyrff preifat a chyrff y trydydd sector, darparu ymchwil ac ystadegau ar gyfer adroddiadau 5 mlynedd y Comisiynydd ar sefyllfa’r Gymraeg, a chynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill ar bolisi iaith.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Wrth ymateb i’r penodiad, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Rydym yn croesawu’r ffaith bod yna benodiad, gobeithiwn y bydd Meri Huws yn cymryd y cyfle i gydnabod y newidiadau sylweddol sydd angen er lles y Gymraeg.

“Rydym yn disgwyl i’r Comisiynydd fod yn llais annibynnol dros y Gymraeg ac i roi buddiannau pobl Cymru yn gyntaf, yn hytrach na dilyn tueddiad yr hen Fwrdd yr Iaith, asiantaeth o’r Llywodraeth oedd yn canolbwyntio ar gyfaddawdu â busnesau a sefydliadau mawrion. Mae cyfle i wireddu hyn gyda’r swydd newydd hon a dyna fydd yr her felly i’r Comisiynydd.”

‘Gwendidau’

Ychwanegodd Bethan Williams: “Er bod nifer o wendidau yn y gyfundrefn a sefydlir yn y Mesur, gydag ewyllys da ac ymroddiad clir gan y Comisiynydd a’r Llywodraeth gallwn ni wneud gwahaniaeth. Gobeithiwn y bydd yn bosib gwella gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag eraill megis dysgwyr a rhieni gyda phlant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

“Gobeithiwn y bydd y Comisiynydd yn sicrhau hawliau i bobl Cymru i wasanaethau Cymraeg o safon drwy osod dyletswyddau clir ac uchelgeisiol ar gyrff a chwmnïau. Mae hefyd angen iddi daclo’r camwahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg yn y gweithle, trwy sicrhau hawliau pobl i weithio yn Gymraeg. Gobeithiwn y gallwn droi sefydliadau Cymru yn ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair lle mae defnydd sylweddol o’r Gymraeg yn fewnol; mae hon yn faes nad yw’r Cynulliad na’r Llywodraeth yn dangos arweiniad ar hyn o bryd.”

‘Sicrhau annibyniaeth’

Wrth ymateb i benodiad Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, dywedodd  Bethan Jenkins AC, llefarydd  Plaid Cymru ar Dreftadaeth, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon eu bod yn croesawu’r penodiad ond bod yn rhaid sicrhau bod y comisiynydd yn annibynnol o ddylanwad Llywodraeth Cymru.

“Mae’r un mor bwysig i’r Cynulliad feddu ar yr arfau i graffu’n iawn ar waith y comisiynydd a thrwy hynny warantu’r annibyniaeth hwn, a gofalu fod pobl Cymru a’u hawliau wrth galon gwaith y comisiynydd newydd.

“Mae gen i bryderon am fod rôl Meri Huws wedi trosi o Fwrdd yr Iaith Gymraeg i un y Comisiynydd Iaith, a byddaf yn gofyn i Lywodraeth Cymru sut y caiff hyn ei reoli yn llwyddiannus. Rhaid i ni fod yn hollol siŵr na fydd gwrthdaro buddiannau, ac y gall y Comisiynydd Iaith Gymraeg newydd ddangos sut y bydd yn dod â’r agwedd newydd angenrheidiol at y swydd newydd hon.”