Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad newydd ar ddiwygio deddfau tenantiaeth amaethyddol, gyda’r nod o wneud ffermwyr tenant “yn fwy gwydn, proffesiynol a ffyniannus” wedi Brexit.

Ar hyn o bryd, mae tua 30% o’r tir fferm yng Nghymru yn cael ei rentu naill ai drwy’r Ddeddf Daliadau Amaethyddol, y Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol neu gytundeb anffurfiol mewn perthynas â thrwyddedau pori.

Bwriad yr ymgynghoriad yw ystyried sut i foderneiddio elfennau o’r deddfau hyn sy’n “hen ffasiwn neu’n cyfyngu ar arferion ffermio modern,” yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r ymgynghoriad 12 wythnos yn rhan o’r paratoadau ar gyfer yr adeg pan fydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Y cynigion

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn pobol ar gynigion a allai dileu rhwystrau i lefelau cynhyrchiant a’i gwneud hi’n haws i gyflwyno “newidiadau strwythurol” yn y sector ffermio tenant.

Nod y newidiadau fydd dileu rhwystrau i denantiaid godi neu addasu adeiladau, buddsoddi mewn cyfarpar sefydlog newydd a chymryd mwy o dir neu arallgyfeirio.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn holi am farn ynghylch a yw’r cyfyngiadau presennol ar forgeisi amaethyddol yn rhwystr i ffermwyr sydd eisiau gosod tir, ac a oes angen cyflwyno mesurau ychwanegol mewn achosion adfeddiannu i ddarparu diogelwch i fenthycwyr sy’n methu â thalu’r ad-daliadau.

Moderneiddio

“Rydyn ni’n benderfynol o roi’r diwydiant amaeth yn y sefyllfa orau posibl i ffynnu yn y dyfodol a galluogi landlordiaid a thenantiaid i addasu i heriau a goresgyn pa bynnag faterion y byddan nhw’n eu hwynebu,” meddai’r Gweinidog Amaeth, Lesley Griffiths.

“Wrth i ni baratoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n cefnogi cynigion fel hyn fel y gall ffermwyr tenant fod yn sicr bod eu dyfodol yn gryf a chynaliadwy.

“Rydyn ni’n annog pawb yn y sector i rannu eu safbwyntiau fel y gallwn ni gael syniad o’r materion sy’n eu hwynebu a sicrhau bod y rheoliadau newydd yn addas i’r diben.

“Gyda’r gwaith diwygio hwn, rydyn ni’n benderfynol o helpu busnesau fferm i ddod yn fwy proffesiynol, gwydn a ffyniannus yn y dyfodol.”