Mae cangen Plaid Cymru Wrecsam wedi lleisio eu pryder ynghylch cynlluniau Cyngor Wrecsam i agor ysgol gynradd Gymraeg yn Borras.

Roedd y Cyngor wedi gwneud cynlluniau i godi’r ysgol newydd ym mis Medi 2017 gan obeithio ei hagor ym mis Medi 2019, cyn symud i’w lleoliad parhaol yn Borras yn 2021.

Roedd y cynlluniau yn rhan o ymgais i gwrdd â’r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn yr ardal.

Ond, mae adroddiad fydd yn mynd o flaen y bwrdd cynllunio heddiw (fydd Mawrth, Ebrill 9) yn nodi nad oes cymhwysiad wedi cael ei wneud ar gyfer y cynnig.

“Mae hi’n siomedig clywed am y gohiriad dwy flynedd i Borras,” meddai Cynghorydd Plaid Cymru, Carrie Harper ar wefan Plaid Cymru Wrecsam.

“Gyda’n hysgolion Cymraeg yn Wrecsam yn llawn neu bron iawn yn llawn, mae angen ysgol Borras i ddarparu ar gyfer y galw cynyddol ar yr ochr yma o’r dref.

“Rydym nawr eisiau sicrwydd gan arweinyddiaeth y Cyngor bod ysgol newydd Borras am agor yn 2021,” meddai Carrie Harper.

Lleoliadau dros dro

Y cynllun cychwynnol oedd rhoi’r plant oedd eisiau addysg Gymraeg yn Ysgol Hafod y Wern dros dro, cyn eu symud i ysgol newydd yn Borras yn 2021.

Ond roedd cwestiynau wedi codi ynghylch pa mor ymarferol fyddai hyn wedi bod, yn enwedig y risg na fyddai rhai disgyblion yn cael lle mewn ysgol Gymraeg cyn i ysgol Borras gael ei agor.

O ganlyniad mae Ysgol Bro Alun yn cael ei ehangu yn dilyn cyllid llawn gan y Cynulliad, ble bydd lle i’r disgyblion sydd eisiau addysg Gymraeg.

“Maen nhw’n ehangu Ysgol Bro Alun dros y ddwy flynedd nesaf felly bydd unrhyw ddisgyblion dros ben yn gallu mynd i fanno yn hytrach nag i Hafod y Wern,” meddai llefarydd Cyngor Wrecsam.

“Mae’n reit cymhleth, ond mae pawb wedi cael cynnig lle mewn ysgol Gymraeg ar gyfer mis Medi.”

“Ymrwymiad i’r iaith yn parhau”

“Mae’r ymrwymiad i’r iaith Gymraeg yn parhau… allai weld pam mae Plaid Cymru yn siomedig, ond dw i’n meddwl mai oherwydd lleoliad mae hyn ac nid oherwydd addysg Gymraeg,” meddai llefarydd Cyngor Wrecsam.

O ran lleoliad, mae Ysgol Bro Alun wedi ei leoli yng Ngwersyllt sydd tair milltir i ffwrdd o Ysgol Hafod y Wern yng nghanol Wrecsam.

Fe fydd y cynllun yn cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 9) a does gan y Cyngor “ddim sylw swyddogol ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ei ran.

“Dydi codi Ysgol Borras ddim yn cael ei ohitio, ac fe ddylai hi gael ei chymeradwyo gan nad oes neb wedi gwrthwynebu hyd yma.”