Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw’r cerddwr a fu farw mewn damwain angheuol yn Ystradgynlais yng Nghwm Tawe dros wythnos yn ôl.

Bu farw Meirion Huw Lloyd, 74, “dim ond llathenni o’i gartref” ar ôl cael ei daro gan gar Renault Clio coch am tua 9yh ar nos Sadwrn (Mawrth 30).

Mae ei deulu wedi talu teyrnged i’r ewythr a’r hen ewythr “annwyl” o Ystradgynlais, a oedd yn gyn-athro a chyn-was sifil a drodd yn ddiweddarach yn ofalwr i’w fam, Lilian Lloyd.

“Roedd Meirion yn gerddor talentog ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn niwylliant a chwaraeon Cymru, gan gefnogi Clwb Pêl-droed Abertawe a Chlwb Criced Morgannwg,” meddai’r datganiad.

“Roedd Meirion wastad yn mwynhau cerdded ac yn ymwelydd cyson ag Abertawe a’r Mwmbwls.

“Ar ddydd Sadwrn, Mawrth 30, roedd Meirion newydd ddychwelyd o daith yno, ond fe ddaeth y diwrnod i ben yn drist, a hynny dim ond llathenni o’i gartref.”