Mae’r mwyafrif o fyrddau iechyd yng Nghymru yn methu amseroedd aros ar gyfer profion a all wneud diagnosis o ganser y coluddyn – sy’n golygu bod y niferoedd sy’n cael prawf yng Nghymru yn fach iawn.

Dyma mae tystiolaeth yn dilyn ymchwiliad gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn dangos, sy’n nodi bod gwasanaeth canser y coluddyn a’i chanlyniadau yng Nghymru ymysg y gwaethaf yn Ewrop.

Rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018, dim ond 55.7% o’r bobol sydd yn gymwys i gymryd prawf sgrinio coluddion yng Nghymru wnaeth gwblhau’r broses.

Ar ben hynny, mae gwahaniaeth mawr yn y nifer o bobol o ardaloedd difreintiedig sy’n cael apwyntiad – 45.6% yn yr ardaloedd tlotaf, o’i gymharu â 63.3% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Prawf sgrinio newydd

Mae gobaith y bydd nifer y bobol sy’n cael eu sgrinio yn cynyddu o ganlyniad i brawf newydd – y Prawf Imiwnocemegol Ysgarthol (FIT) – sy’n cael ei gyflwyno eleni.

Er hynny, mae pryderon bod unedau endosgopi mewn ysbytai ar draws Cymru eisoes yn cael trafferth ymdopi a’r galw a gallai roi mwy o straen ar wasanaeth sydd eisioes dan bwysau.

“Mae gwasanaethau endosgopi yng Nghymru yn gwegian, ac mae’n siomedig mai ychydig o gynnydd sydd wedi’i wneud i’w gwella ers adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endosgopi Llywodraeth Cymru yn 2014,” meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

Er gwaethaf cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf mae amseroedd aros yn dal i achosi pryder, clywodd y pwyllgor.

“Cam cadarnhaol”

Mae cyflwyno’r prawf newydd “yn gam cadarnhaol”, meddai Dai Lloyd, er mwy sicrhau bod  “lleihad sylweddol yn y risg y bydd rhywun yn marw o ganser y coluddyn.”

“Yr hyn sydd ei angen nawr yw i Lywodraeth Cymru ddangos cynnydd sylweddol ac arweinyddiaeth gref er mwyn mynd i’r afael â’r problemau y mae’r maes pwysig hwn o wasanaeth iechyd Cymru yn eu hwynebu.”

Mae argymhelliad gan y Pwyllgor yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r rhaglen gwella endosgopi genedlaethol i greu a chyhoeddi cynllun gweithredu endosgopi erbyn Hydref 2019.