Fe fydd £3.4m o arian ychwanegol yn cael ei roi i deuluoedd er mwyn iddyn nhw allu talu am gyfarpar ysgol i’w plant.

Bydd yr arian, sy’n ehangu’r Grant Datblygu Disgyblion sy’n bodoli eisoes, yn rhoi cymorth i 14,000 o ddisgyblion ychwanegol.

Mae’r grant, a gafodd ei gyflwyno y llynedd, yn helpu teuluoedd i dalu am wisg ysgol a chit chwaraeon, yn ogystal â chyfarpar ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys clybiau chwaraeon a theithiau dysgu awyr agored.

“Mae torri’r cylch tlodi ac anfantais yn hollbwysig, ac mae’n ganolog i’n hymgyrch genedlaethol i godi safonau ar gyfer pob un o’n dysgwyr,” meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, sy’n cyflwyno’r grant newydd heddiw (Dydd Sadwrn, Ebrill 6).

Carfan ehangach o ddisgyblion

Gyda’r arian ychwanegol, bydd teuluoedd disgyblion Blwyddyn 7 sydd yn gymwys yn derbyn £200 yn lle’r £125 maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd.

Bydd y cyllid hefyd yn ei gwneud hi’n bosib gwneud plant Blwyddyn 3 a Blwyddyn 10 yn gymwys, a bydd yn helpu plant sy’n derbyn gofal ym mhob blwyddyn ysgol yn orfodol.

“Bydd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn golygu bod mwy o ddisgyblion yn gymwys i gael cyllid,” meddai Kirsty Williams.

“Bydd mwy o arian ar gael i rieni plant sy’n mynd o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd sydd, fel rydyn ni’n gwybod, yn gallu bod yn gyfnod drud.”