Mae’r Swyddfa Dywydd yn darogan tywydd rhynllyd yn y de ddechrau’r wythnos.

Daw’r rhybudd wrth i’r tymheredd ostwng dros y penwythnos.

Er bod disgwyl tywydd gwael yng ngogledd Lloegr, mae disgwyl i ogledd Cymru aros yn braf.

Fe allai’r tywydd droi ddechrau’r wythnos, fodd bynnag, wrth i law trwm ledu drwy’r de.