Bydd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn galw o’r newydd heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 6) am ail refferendwm Brexit.

Mae hi’n dweud ei bod hi a’i phlaid yn “ddi-wyro” ynghylch y farn honno, a bod ail refferendwm yn “opsiwn amgen i boblyddiaeth asgell dde, gwleidyddiaeth ofn a Brexit”.

Yn ei haraith yng Nghynhadledd Wanwyn y blaid yng Nghaerdydd, bydd hi’n beirniadu’r rhai sy’n lladd ar Geidwadwyr sydd o blaid aros yn yn Undeb Ewropeaidd, a Jeremy Corbyn am “anwybyddu’r rhan fwyaf o’i aelodau” drwy fethu â gwrthwynebu Brexit.

Ond bydd hi’n canmol Syr Vince Cable, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a’r cyn-arweinydd Tim Farron am gyflwyno’r syniad o gynnal Pleidlais y Bobol.

Araith

“Yn y dair blynedd, bron, ers y refferendwm, rydym wedi gweld Prif Weinidog Ceidwadol sydd wedi rhoi ei phlaid ei hun yn gyntaf bob cam – ac nid ein gwlad,” bydd hi’n dweud wrth y gynhadledd.

“Ei meistri go iawn yw’r ERG a’r DUP.

“Yn y Blaid Geidwadol, plaid a aeth â Phrydain i mewn i Ewrop ac i mewn i’r farchnad sengl, rydym yn gweld aelodau seneddol da, gonest sydd o blaid Ewrop fel Dominic Grieve a Nick Boles yn cael eu labelu’n fradwyr ac yn wynebu pleidleisiau o ddiffyg hyder.

“Yn y cyfamser, mae Jeremy Corbyn yn parhau i anwybyddu’r rhan fwyaf o’i aelodau a phleidleiswyr drwy fethu dro ar ôl tro â gwrthwynebu Brexit a fydd, mae’n amlwg, yn niweidio ein heconomi, ein dyfodol ac yn syml iawn, y mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

“Tim Farron oedd wedi dangos cryn ddewrder ar ôl y refferendwm hwnnw a chyflwyno’r syniad o Bleidlais y Bobol.

“Vince Cable aeth â hyn yn ei flaen a rhoi’r Democratiaid Rhyddfrydol wrth galon mudiad o filiynau i roi’r gair olaf ar y cytundeb i’r bobol.

“Gynhadledd, mae yna opsiwn amgen i boblyddiaeth asgell dde, i wleidyddiaeth ofn ac i Brexit.

“Y Democratiaid Rhyddfrydol a rhyddfrydwyr o amgylch y byd yw [yr opsiwn hwnnw].

“Nawr yw ein hamser NI i fynnu gwell, a gwneud safiad.

“Rydym yn mynnu cael Pleidlais y Bobol a byddwn yn ddi-wyro yn ein safiad.”