Bydd Aberystwyth yn llawn dop o gorau yn ganu dros y penwythnos wrth i rownd derfynol Côr Cymru a chystadleuaeth Côr Cymru Cynradd gael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Nos yfory bydd y gystadleuaeth ar gyfer y corau cynradd – gyda phedair ysgol gynradd yn mynd benben â’i gilydd.

Y noson wedyn fe fydd pum côr yn cystadlu yn rownd derfynol Côr Cymru, gyda’r enillydd yn mynd yn ei flaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Eurovision Choir of the Year, a fydd yn cael ei chynnal yn Gothenburg, Sweden, ym mis Awst.

Heledd Cynwal a Morgan Jones fydd yn cyflwyno’r corau mewn dwy raglen fyw ar S4C.

Côr Cymru Cynradd

  • Ysgol Gymraeg Teilo Sant Llandeilo;
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn Porth;
  • Ysgol Gymraeg Llangennech;
  • Ysgol Pen Barras, Rhuthun

Côr Cymru

  • Ysgol Gerdd Ceredigion;
  • John’s Boys o Rosllannerchrugog;
  • CF1 o Gaerdydd;
  • Côr Ieuenctid Môn;
  • Côr Sioe Ieuenctid Môn