Mae’r heddlu wedi lansio apêl wrth iddyn nhw ymchwilio i ladrad ar fferm yn Llanelli, ble mae swm mawr o gyfarpar merlota wedi cael ei ddwyn.

Bu i’r lladrad ddigwydd ar Fferm Glyngwernen Uchaf yn Felin-foel rhywbryd rhwng 7.30 ar nos Sadwrn, Mawrth 30, a naw o’r gloch fore dydd Sul, Mawrth 31.

Mae’r offer sydd werth £5,000 i gyd yn cynnwys nifer o gyfrwyau a ffrwynau ceffylau ac amrywiaeth o bethau eraill.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu unrhyw un sydd yn gweld eitemau ceffylau amheus ar werth, gysylltu â PC 825 Carter ar 101 gan ddyfynnu DPP/0011/31/03/2019/01/C.