Mae elusen sy’n delio â chlefyd y siwgr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi arian mewn ymgyrch i dynnu sylw pobol at beryglon peidio byw’n iach.

Yn ôl Diabetes UK Cymru, mae bod dros bwysau a pheidio byw’n  iach yn cynyddu’r risg o gael clefyd y siwgr yn sylweddol, a bod angen tynnu sylw pobol at hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran Diabetes UK Cymru wrth Golwg 360 fod y gost o drin clefyd y siwgr yng Nghymru yn mynd â 10% o holl gyllideb y Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd – sef bron i £500 miliwn bob blwyddyn.

Ac mae’r ystadegau’n awgrymu bod y canran hwnnw ar gynnydd.

“Unwaith eto mae’r achosion o glefyd y siwgr wedi codi’n syfrdanol yng Nghymru gyda dros 7,000 wedi cael diagnosis o’r  cyflwr difrifol yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig,” meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru.

“Yr hyn sy’n frawychus yw bod y ffigurau’n dangos bod dros 29,000 o bobl wedi cael gwybod bod diabetes arnyn nhw ers 2007 ac, os bydd y duedd hon yn parhau, bydd dros 250,000 o bobl wedi cael diagnosis am y cyflwr yng Nghymru erbyn 2024.”

Mae’r elusen yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr er mwyn arbed iechyd pobol, ac arian y gwasanaeth iechyd.

“Mae 90% o ddioddefwyr clefyd y siwgr yn dioddef o Math 2,” esboniodd llefarydd ar ran yr elusen wrth Golwg 360, “ac mae 80% o bobol sy’n cael diagnosis o glefyd y siwgr Math 2  dros bwysau ar adeg y diagnosis.

“Mae hanes teuluol ac oed yn ffactor,” cyfaddefodd, “ond mae peidio cael bywyd iach a bod dros bwysau yn ffactorau sy’n cynyddu’r risg yn fawr.”

Galw am weithredu

“Mae trin diabetes a’i gymhlethdodau eisoes yn costio tua £500m y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru, sef 10 % o’i gyllideb flynyddol, a bydd y gost enfawr hon yn dal i godi os na wneir rhagor i atal pobol rhag datblygu diabetes Math 2,” meddai Dai Williams.

Mae’r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu ymgyrchoedd i dynnu sylw pobol at ba mor gyffredin yw clefyd y siwgr, a beth y gall pobol ei wneud i’w osgoi.

“Gall pobol wneud llawer mwy i reoli clefyd y siwgr,” meddai llefarydd ar ran yr elusen wrth Golwg 360, “gall pobol wneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau drwy fwyta’n iach a gwneud rhywfaint o ymarfer corff, gan fod hwnnw’n gallu helpu atal y clefyd rhag cymryd gafael am gyfnod hirach, ac weithiau hyd yn oed ei atal yn llwyr.”

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw eioes yn buddsoddi mewn ymgyrchoedd o’r math, ac yn helpu pobol i wneud y penderfyniadau iawn ynglŷn â byw’n iach.

“Yn ogystal â darparu gofal a thriniaeth i bobol sydd â chlefyd y siwgr yng Nghymru, rydyn ni’n parhau i fuddsoddi mewn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bywyd iachus, gan gynnwys bwyta’n iach, yfed alcohol yn gymedrol a pheidio ysmygu, trwy greu amgylchfyd sy’n helpu pobol i wneud penderfyniadau iachus.”

Yn ôl y Llywodraeth, mae grŵp o arbenigwyr wedi ei sefydlu ers dechrau’r flwyddyn er mwyn ystyried gofal ar gyfer clefyd y siwgr yng Nghymru.

Fe fydd canlyniadau’r arolwg, medd y Llywodraeth, yn eu helpu i benderfynu pa opsiynau sydd orau i “helpu pobol gael bywyd mor iach a phosib, ac i’w cefnogi i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain.”

Un o’r opsiynau sy’n cael eu hystyried gan y gweinidog iechyd ar hyn o bryd yw’r opsiwn o gyflwyno cynllun i roi archwiliad iechyd i bob person dros 50 yng Nghymru.

“Fe fyddwn ni’n gweithio’n agos iawn gyda sefydliadau yn y sector iechyd fel y BMA, GPS Cymru, a’r Byrddau Iechyd Lleol wrth ddatblygu’r cynigion hyn,” meddai’r Adran Iechyd.