Mae ymgyrchwyr iaith yn dweud bod peidio â chynnwys gofyniad Cymraeg mewn hysbyseb am Ddirprwy Brif Weithredwr newydd i Gartrefi Cymunedol Gwynedd, yn “gwbl annerbyniol”.

Mae ffrae fawr wedi datblygu ynghylch yr hysbyseb, gyda’r corff sy’n gyfrifol am dros 6,300 o dai rhent yng Ngwynedd wedi amddiffyn eu penderfyniad i beidio â chynnwys unrhyw ofyniad i allu’r Gymraeg.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Ffrancon Williams, ar raglen Taro’r Post ar BBC Radio Cymru ddoe (dydd Iau, Ebrill 4) fod y swydd yn “cefnogi cynllun twf sy’n mynd y tu hwnt i’r bröydd Cymraeg”.

Ond mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw ar Gartrefi Cymunedol Gwynedd i ailystyried eu proses recriwtio.

“Anymarferol”

“Mewn ardal ble mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg, a mwyafrif llethol staff Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn ei defnyddio fel cyfrwng gwaith, credwn fod y penderfyniad hwn nid yn unig yn un cwbl annerbyniol, ond yn un anymarferol yn ogystal,” meddai Eifion Lloyd Jones ar ran y mudiad.

“Afraid dweud bod hwn yn gosod cynsail peryglus iawn. Yng nghyd-destun yr amcan i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg, dylid anelu at Gymreigio’r gweithle a chefnogi’r Gymraeg ymysg y gweithlu. Nid oes hyd yn oed amod i ddysgu’r iaith ynghlwm â’r hysbyseb hwn.

“Byddwn yn galw ar Gartrefi Cymunedol Gwynedd i ailystyried eu proses recriwtio, ac ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y gweithle fel maes allweddol i hyrwyddo twf y Gymraeg.”

“Ehangu y tu hwnt i’r fro Gymraeg”

Mewn datganiad, dywed Cartrefi Cymunedol Gwynedd y bydd swydd y Dirprwy Brif Weithredwr  yn cefnogi cynllun sy’n cynnwys “adeiladu cannoedd o dai cymdeithasol newydd ar draws y Gogledd a thu hwnt”.

Golyga hyn, medden nhw, fod y cwmni yn “ehangu y tu hwnt i’r fro Gymraeg”, a bod angen cynllun iaith “sy’n taro’r cydbwysedd cywir rhwng ystyriaethau hyfywedd busnes ac ystyriaethau ieithyddol”.

“Rydym fel cwmni yn gweithredu mewn marchnad gystadleuol ac felly mae angen yr hyblygrwydd hwn er mwyn ein galluogi ni i gynnal asesiad ieithyddol ar gyfer ein swyddi,” meddai llefarydd ar ran Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

“Pwysleisiwn nad gwanio’r iaith yw hyn, ond mater o roi hyblygrwydd ar gyfer sicrhau hyfywedd y busnes i’r dyfodol.

“Cadarnhawn y bydd pob swydd Cymraeg hanfodol o fewn y cwmni’n parhau felly i’r dyfodol.”