Mae Ysgol Penglais bellach wedi ei thynnu oddi ar restr o ysgolion sydd angen ‘gwelliant sylweddol’, yn dilyn ymweliad gan arolygwyr fis diwethaf.

Y llynedd, bu pryderon gan rieni ynglŷn â safon y dysgu yn yr ysgol uwchradd yn Aberystwyth, yn sgil diffyg cyllid a thoriadau i nifer y staff.

Ond mae adroddiad gan y corff arolygu, Estyn, a ymwelodd â’r ysgol ym mis Mawrth, yn tynnu sylw at ddatblygiadau yn ansawdd y dysgu.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, fe welodd yr arolygwyr fod disgyblion bellach yn gwneud “cynnydd addas ac yn ymddwyn yn dda yn yr ysgol” o ganlyniad i welliannau, gyda “pherthynas waith da” rhwng athrawon a myfyrwyr.

“Canfu’r arolygwyr bod arweinyddiaeth ar draws yr ysgol wedi gwella, gyda systemau cryf bellach yn eu lle sy’n gwneud yn siŵr bod yr ysgol yn gwella yn gyflym,” meddai llefarydd.

“Mae hyn wedi arwain at welliannau yng nghyflawniadau myfyrwyr, safonau ymddygiad a phresenoldeb myfyrwyr.”

“Gweithio’n ddiflino”

Yn ôl Pennaeth Ysgol Penglais, Mair Hughes, mae staff yr ysgol “wedi gweithio’n ddiflino” i wella ansawdd y dysgu yn yr ysgol, ynghyd â gwella ymddygiad a chynnydd myfyrwyr.

“Rwy’n falch iawn bod yr arolygwyr yn cydnabod yr effaith y mae’r gwaith caled wedi ei chael ar gynorthwyo myfyrwyr i wneud y cynnydd y maen nhw yn ei haeddu,” meddai.

“Mae hefyd yn cydnabod y myfyrwyr parchus a gweithgar sydd gennym ym Mhen-glais a’r cynnydd da maen nhw’n ei wneud, gyda rhai yn gwneud cynnydd cyflym.

“Mae’n bleser gweithio gyda’r staff a’r myfyrwyr rhagorol o fewn yr ysgol a byddwn yn parhau i weithio’n galed i sicrhau ein bod yn ysgol hapus, uchelgeisiol a hynod o dda ein gweledigaeth.”