Mae tad a mab, a wisgodd i fyny fel Siôn Corn a’i was bach, wedi gorfod talu dros £1,500 ar ôl casglu arian at achos da heb ganiatâd yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd Clifford a Luke Evans wedi cael eu dal yng nghanol tref Rhydaman ym mis Rhagfyr 2017 wrth gasglu arian ar gyfer yr elusen iechyd meddwl, MIND.

Ond aeth y ddau i drwbwl ar ôl i swyddog o Gyngor Sir Gaerfyrddin ddod i wybod nad oedd ganddyn nhw drwydded elusennol yn eu meddiant na chaniatâd gan yr elusen ei hun i gasglu.

Casglu ar gyfer “sypreis”

Roedd Clifford Evans, 50, o Lanusyllt, Sir Benfro, a oedd mewn gwisg Siôn Corn, wedi dweud ei fod yn casglu’r arian “fel sypreis”, ac nad oedd yn ymwybodol bod angen trwydded i gyflawni gwaith o’r fath.

Cafwyd ymateb tebyg gan y mab, Luke Evans, 25, a ddywedodd ei fod yn casglu ar ran ei dad.

Ar ôl i’r ddau gael eu tywys gan yr heddlu i gerbyd y tad, daeth swyddogion o hyd i fwcedi a oedd yn cynnwys £99.65.

Roedd y ddau hefyd wedi cael eu gweld ar gamera stryd yn casglu arian yng nghanol tref Caerfyrddin ddeuddydd ynghynt.

Anllythrennog

Dywedodd cyfreithiwr ar ran y ddau eu bod nhw wedi bwriadu rhoi’r arian i elusen, a bod Clifford Evans wedi bod yn cefnogi achosion da dros gyfnod o ddeng mlynedd.

Ychwanegodd fod y tad wedi cael rhybudd gan y cyngor o’r blaen, ond roedd wedi methu â deall y gofynion oherwydd ei fod yn anllythrennog.

Derbyniodd y ddau ddirwy gwerth £400 yr un, ac maen nhw wedi eu gorchymyn i dalu £544.11 o gostau a £30 ychwanegol o gostau gordal dioddefwr.

Fe orchmynnodd y llys eu bod nhw hefyd yn talu’r swm o £99.65 i MIND.