Mae ymgyrchwyr figanaidd yn feirniadol o daith a fydd yn cael ei chynnal yn yr haf er mwyn hyrwyddo’r diwydiant amaeth yng Nghymru ymhlith yr ifanc.

Mae ‘Cows on Tour’ yn cael ei drefnu gan grŵp o ffermwyr sydd wedi bod yn cynnal digwyddiadau undydd mewn ysgolion ers pum mlynedd.

Y nod yw ceisio codi ymwybyddiaeth am wahanol ddulliau o amaethu, gan gynnwys ffermio llaeth a bîff, defaid, moch a chnydau.

Ond ar drothwy taith arbennig fydd yn cael ei chynnal ledled Cymru rhwng Mai 13 a 19, mae’r Gymdeithas Figan wedi ei disgrifio’n “bropaganda sy’n cael ei yrru gan elw”.

“Dim modd cuddio’r dioddefaint”

“Fe hoffwn weld y daith hon yn trafod holl effeithiau ffermio llaeth, gan gynnwys sut y mae gwartheg yn derbyn tarw potel bob blwyddyn ac yn cael eu lloi wedi eu cymryd oddi arnyn nhw pan maen nhw ond yn ddiwrnod oed,” meddai Dominika Piasecka, llefarydd ar ran y Gymdeithas Figan.

“Mae’r diwydiant llaeth yn ecsbloetio a does dim modd cuddio’r dioddefaint y mae gwartheg llaeth yn eu dioddef o ddydd i ddydd yn ystod eu bywyd byr, diflas.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cyhoedd yn gweld y tu hwnt i’r propaganda hwn sy’n cael ei yrru gan elw, ac yn edrych ar adnoddau sefydliadau fel un ni, sydd â dim amcanion ariannol ac eisiau i bobol fwyta deiet cynaliadwy ac iachus sydd ddim yn niweidio anifeiliaid.”

“Lles y gwartheg yn hanfodol”

Mae trefnwyr ‘Cows on Tour’ wedi ymateb drwy ddweud bod sicrhau safonau uchel o ran lles gwartheg yn “hanfodol” i ffermwyr llaeth yng ngwledydd Prydain.

“Rydyn ni’n gwybod bod gan tua 98% o gartrefi yng ngwledydd Prydain gynnyrch llaeth yn eu hoergell am ei fod yn rhan elfennol o ddeiet sy’n gynhwysol, yn enwedig ymhlith pobol ifanc, sydd angen maeth er mwyn cael esgyrn a dannedd iachus,” meddai llefarydd ar eu rhan.

“Mae yna nifer o reoliadau sy’n sicrhau bod ffermwyr gwledydd Prydain yn dilyn safonau uchel, sy’n cynnwys milfeddygon a chynlluniau tebyg i logo’r ‘Tractor Coch’.

“Rydyn ni’n ceisio cynnwys gwybodaeth ynglŷn â hyn gymaint ag y gallwn drwy gyfrwng ‘Cows on Tour’.”