Mae BBC Cymru, Channel 4 a S4C wedi ffurfio partneriaeth hyfforddi newydd sydd â’r nod o gefnogi “datblygiad a thwf” cynhyrchu teledu ffeithiol yng Nghymru.

Bydd y rhaglen, ‘Llwybr Carlam Ffeithiol Cymru’, yn darparu datblygiad a hyfforddiant wedi eu teilwra i unigolion sy’n “meddu ar botensial gwirioneddol” i fod yn gynhyrchwyr cyfresi yn y dyfodol.

Cafodd y cynllun newydd ei gyhoeddi yn y Confensiwn Dinasoedd Creadigol yng Nghaerdydd, a’r bwriad yw gweithredu’r rhaglen newydd yn nes ymlaen eleni.

Y manylion

Yn ei flwyddyn gyntaf, bydd y cynllun yn anelu at hyfforddi a datblygu chwe chynhyrchydd cyfres neu redwr sioe newydd yng Nghymru.

Mae’r rhaglen wedi ei dylunio yn dilyn ymgynghoriad â chynhyrchwyr annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru.

Bydd pecyn hyfforddi pwrpasol yn cael ei deilwra i bob unigolion – gan gynnwys lleoliadau cynhyrchu, hyfforddiant, mentora a chyfleoedd i weithio ochr yn ochr â thimau comisiynu’r darlledwyr.

“Testun cyffro”

Yn ôl Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru: “Mae pawb yn gwybod bod Cymru yn un o’r prif leoliadau am gynyrchiadau drama erbyn hyn.

“Ond mae gan bob darlledwr gynlluniau mawr ar gyfer rhaglenni ffeithiol hefyd – ac rydyn ni am weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr bod Cymru’n barod i fodloni’r galw cynyddol am gynhyrchu ffeithiol o’r radd flaenaf.”

Dywed Deborah Dunnet, Rheolwr Cenhedloedd a Rhanbarthau Channel 4, ei bod hi’n credu y bydd y bartneriaeth newydd yn rhoi “hwb enfawr” i hyfforddiant yn y sector ffeithiol, gan ddatblygu’r “genhedlaeth nesaf” o redwyr sioeau ffeithiol yng Nghymru.

Ychwanega Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C eu bod nhw’n falch o gefnogi talent fydd yn gallu gweithio “ar gynnwys Cymraeg a Saesneg”.