Mae dau weithiwr mewn cartref plant yn Wrecsam wedi cael eu hatal o’u gwaith dros dro, ar ôl i berson ifanc dan eu gofal redeg i ffwrdd.
Cafodd David Corrigan, a oedd yn uwch weithiwr prosiect ar y pryd, ei atal am 12 mis, tra bo ei gydweithiwr, Ben Berry, a oedd yn weithiwr prosiect, ei atal am naw mis.
Roedd y ddau ohonyn nhw’n gweithio i Dewis, sy’n rhan o Grŵp Keys.
Clywodd panel o swyddogion Gofal Cymdeithasol Cymru fod naw cyhuddiad yn erbyn y ddau weithiwr, a oedd yn cynnwys peidio â rhoi digon o oruchwyliaeth i’r person ifanc yr oedden nhw’n gofalu amdano.
Roedden nhw hefyd wedi eu cyhuddo o roi gwybodaeth ffug i’r heddlu ynghylch yr hyn a ddigwyddodd i’r person ifanc pan redodd i ffwrdd.
Profwyd pob cyhuddiad yn erbyn David Corrigan, tra bo saith cyhuddiad yn erbyn Ben Berry wedi eu profi.
Yn ogystal â chael eu hatal o’u gwaith, bydd yn rhaid i’r ddau fynychu gwrandawiadau adolygu bob deufis cyn i’w gorchymyn ddod i ben.
Cafodd y gwrandawiad ei gynnal yng Ngwesty’r Beaufort Park yn yr Wyddgrug.