Mae dau ddyn 26 oed wedi cael ei harestio mewn cysylltiad â gwrthdrawiad difrifol ym Maglan, Port Talbot ddoe (dydd Sul, Mawrth 31).

Mae pedwar o bobl yn cael triniaeth yn yr ysbyty wedi’r digwyddiad – mae un ohonyn nhw wedi cael anafiadau sy’n bygwth bywyd.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng car BMW du a Peugeot 207 lliw copr am 11.20yh yn Rhodfa’r Môr, Baglan.

Mae ymchwiliad ar y gweill ac mae Heddlu’r De yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r cerbydau yn cael eu gyrru yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1900114769.