Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i wrthdrawiad difrifol ym Maglan, Port Talbot ddoe (dydd Sul, Mawrth 31).

Cafodd nifer o bobl eu hanafu’n ddifrifol yn y gwrthdrawiad rhwng car BMW du a Peugeot 207 lliw copr am 11.20yh yn Rhodfa’r Môr, Baglan.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r cerbydau yn cael eu gyrru yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1900114769.