Mae milwyr oedd wedi cwblhau hyfforddiant mewn tymheredd o -5 gradd selsiws ym Mannau Brycheiniog yn ddiweddar yn paratoi i deithio i Cenia i ymarfer mewn gwres o 40 gradd Celsius.
Mae’r reifflwyr o Ogledd Iwerddon yn paratoi at hyfforddiant chwe wythnos Askari Storm mewn rhan anghysbell o Cenia – hyfforddiant sy’n cynnwys ymarferion saethu a gorymdeithiau.
Fe fydd yn eu paratoi i fynd i wasanaethu mewn rhyfel ar unrhyw adeg, wrth iddyn nhw ddechrau paratoi hefyd at daith i Afghanistan y flwyddyn nesaf.
“Mae’n wahanol iawn i ymarfer yn y DU,” meddai’r Capten Will Gage.
“Roedd yr ymarfer diwethaf wnaethon ni yn Aberhonddu mewn tymheredd o ryw -5 gradd selsiws, felly mae’n dipyn o naid.
“Mae’r amodau’n anodd [yng Nghenia], yn dwym iawn ac mewn llwch.”