Mae gwaith datblygu gwerth £20m ar fin dechrau yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam ar gyfer adeilad tri llawr â’r dechnoleg ddiweddaraf.

 Ymunodd Lesley Griffiths, Aelod Cynulliad Wrecsam, â David Jones, prif weithredwr y Coleg, ddoe (dydd Gwener, Mawrth 29), mewn seremoni i nodi dechrau’r gwaith.

 Grove Park Road yn Wrecsam yw safle diweddaraf Coleg Cambria Iâl i gael ei adnewyddu, yn dilyn datblygiadau gwerth miliynau o bunnoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Bersham Road.

Wynne Construction o Fodelwyddan fydd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu.

Bydd 500 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y prosiect sy’n derbyn £13m gan Raglen Ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

Yn ogystal â thechnoleg newydd blaenllaw, bydd yr adeilad newydd tri llawr yn cynnwys neuadd â 200 o seddau, ceginau hyfforddi, bwyty, gofod astudio, gofod chwaraeon arloesol ac ystafelloedd technoleg gwybodaeth.

‘Amser cyffrous’

“Mae’n amser cyffrous i Wrecsam, ac rydym yn falch o fod yn rhan o hynny,” meddai David Jones, prif weithredwr Coleg Cambria Iâl, David Jones.

“Mae safle Coleg Iâl yn allweddol i’n llwyddiant parhaol yn academaidd ac fel rhan o dref Wrecsam. Rydym felly yn hynod o hapus i ddweud bod y gwaith yn swyddogol wedi dechrau.”

Dywed yr Aelod Cynulliad Lesley Griffiths ei bod yn “falch” o fod yn rhan o’r seremoni a bod “Coleg Cambria yn chwarae rhan ganolog yn Wrecsam a gogledd ddwyrain Cymru.”