Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £14.67 miliwn i helpu landlordiaid cymdeithasol i brynu tir er mwyn adeiladu mwy o dai ledled y wlad.

Enw’r cynllun yw ‘Tir ar gyfer Ta’i, a’r bwriad yw benthyg arian i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i adeiladu’r tai.

 Mae’r cynllun wedi bod yn mynd ers 2015, ac ers hynny mae £52m wedi cael ei fuddsoddi, a 4,100 o gartrefi wedi’u hadeiladu ar draws Cymru – gyda 84% ohonyn nhw yn dai fforddiadwy.

Yn yr ail gylch hwn o fuddsoddiad, mae 17 cynllun –  sy’n codi’r cyfanswm o fuddsoddiadau yn y flwyddyn ariannol hon i dros £32m.

Mae hyn yn cynnwys £4.2m sydd wedi cael ei ad-dalu a’i ail-fuddsoddi.

“Gan mai cynllun benthyciadau yw hwn, pan ad-delir yr arian mae’n cael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau newydd ac oherwydd hynny mae’n darparu llawer mwy o werth na’r £52 miliwn yr ydym wedi’i fuddsoddi hyd yn hyn,” meddai Julie James, Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon, ac un yn unig o’r ffyrdd yr ydym yn buddsoddi i gyflawni hyn yw’r Cynllun Tir ar gyfer Tai.”

“Gwella bywydau”

Bydd y cynllun newydd yn cael ei leoli yng Nghaerdydd, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Wrecsam.

Yn ôl Julie James, mae’n “enghraifft ardderchog” o’r ffordd mae’r Llywodraeth yn gweithio gyda landlordiaid “i adeiladu tai ac i wella bywydau pobl yng Nghymru”.

Dywed Elaine Ballard, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Taf, bod galw am dai yn yr ardaloedd hyn “bob amser”.

“Bydd tenantiaid y dyfodol yn elwa ar y rhwydweithiau cymunedol cryf y mae’r Gymdeithas yn rhan ohonynt. Yn eu tro, bydd y trigolion newydd hyn yn cael cyfle i gymryd rhan yn y gymdogaeth gref ac amrywiol hon a’i chryfhau.”