Mae Mark Isherwood yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, wrth bwysleisio bod y wlad ar ei hôl hi o’i chymharu â gwledydd eraill Prydain.

Mae 700,000 o bobol yng Nghymru yn byw mewn tlodi, yn ôl yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, sy’n cadeirio prif seminar Fforwm Polisi Cymru ar leihau tlodi yng Nghymru.

Cymru, o blith gwledydd Prydain, sydd â’r lefelau tlodi uchaf, yn ôl sawl adroddiad ar y pwnc, sydd hefyd yn tynnu sylw at gyflogau isel a lefelau cynhyrchu o’u cymharu â Lloegr a’r Alban.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau y llynedd fod cyflogau’n cynyddu’n arafach yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall ym Mhrydain.

Yn ôl adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree yn 2017, mae 60% o deuluoedd di-waith mewn tlodi, o’u cymharu ag 16% o deuluoedd sy’n gweithio.

Fe fu cynnydd hefyd yn nifer y gweithwyr sy’n derbyn llai na’r Cyflog Byw ar gynnydd, a bod menywod, pobol ag anableddau a phobol o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o dderbyn cyflogau isel.

‘Dim cynllun clir’

Mae Mark Isherwood yn dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun clir er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.

“…Does dim cynllun clir, a dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi Cynllun Cyflwyno ar Dlodi Plant’ sy’n cynnwys camau concrid, mesuradwy,” meddai mewn datganiad.

Mae’n dweud hefyd fod ei alwad yn “ddrych i alwadau ehangach am gynllun gan Lywodraeth Cymru i drechu tlodi, gyda thargedau perfformiad a mesuryddion cynnydd clir”.

“Gyda Sefydliad Joseph Rowntree yn darganfod fis Mawrth y llynedd fod mwy na 700,000 o bobol yng Nghymru’n byw mewn tlodi, a ddylen ni, o bosib, fynd yn ôl at y datganiad yn 2013 gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fod ‘angen i Lywodraeth Cymru a’r sector adnewyddu mecanweithiau ymgysylltu cyfredol i ddatblygu, hybu a monitro ‘Rhaglen Waith’ yn seiliedig ar gyd-gynhyrchu a thir cyffredin’?”