Mae un o gynghorywyr Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych yn dweud ei fod yn gwrthwynebu’n chwyrn unrhyw fwriad gan lywodraeth San Steffan i gladdu gwastraff ymbelydrol yn yr ardal.

Ac mae Mabon ap Gwynfor, sy’n cynrychioli Llandrillo a Chynwyd, yn dweud fod hefyd yn gwrthod y syniad y dylai’r gwastraff gael ei ddympio unrhyw le yng Nghymru.

“Does dim croeso iddyn nhw gladdu eu gwastraff ymbelydrol yma,” meddai.

Fe fydd Cyngor Sir Dinbych yn trafod papur ymgynghorol Llywodraeth Cymru o ran claddu gwastraff niwclear mewn cyfarfod llawn fory (dydd Iau, Mawrth 28).

Papur ymgynghori

Mae’r papur ymgynghori, Gwerthuso Safle: sut byddwn yn gwerthuso safleoedd yng Nghymru, gan Radioactive Waste Manegement Ltd, yn edrych ar safleoedd posib ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol.

Ym mis Mai 2015, ar ôl adolygu polisi ac ymgynghoriad cyhoeddus, roedd Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu polisi yn cefnogi gwarediad daearegol ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn y tymor hir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi amlinelliad bras o drefniadau ar gyfer gweithio gyda chymunedau posibl yng Nghymru ar gyfer cynnig llety i wastraff.

Gall hyn olygu buddsoddiad o hyd ar £1m yn yr ardal, gad godi £2.5m y flwyddyn mewn ardaloedd sydd yn cael tyllau tyfn.

Arian ddim yn gymhelliant

“Fedran nhw ddim ein llwgrwobrwyo ni,” meddai Mabon ap Gwynfor. “Mae ymbelydredd niwclear yn beryglus am ddegau o filoedd o flynyddoedd a mwy, a does dim modd sicrhau y byddai’r ymbelydredd yma yn aros yn ddiogel yn y ddaear am yr holl amser yma.

“Byddai’n gwbwl anghyfrifol i gladdu gwastraff o’r fath o dan ein traed,”

Nid oes hawl gal Llywodraeth Cymru orfodi gwastraff ymbelydrol ar unrhyw ardal heb ganiatâd yr ardal honno.