Mae pobol sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru yn fwy tebygol o fod â salwch difrifol arall pan fyddan nhw’n cael diagnosis, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r ymchwil wedi ei baratoi gan elusen Cymorth Canser Macmillan ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl y ddau gorff iechyd, mae cyflyrau eraill yn ei gwneud hi’n anoddach i’r Gwasanaeth Iechyd roi diagnosis yn gynnar i gleifion sydd â chanser.

Mae hefyd, medden nhw, yn cyflwyno heriau ar gyfer gwasanaethau sy’n cynllunio a chynnig triniaeth canser.

Y canfyddiadau

Yn ôl yr ymchwil, mae o leiaf un o bob pedwar person sydd wedi cael diagnosis o ganser yng Nghymru rhwng 2011 a 2015 eisoes ag anhwylder neu salwch difrifol arall – fel clefyd siwgwr, dementia neu glefyd y galon.

Mae pobol gyda chanser wedyn yn llai tebygol o oroesi am flwyddyn ar ôl eu diagnosis os yw difrifoldeb eu salwch neu nifer yr anhwylderau sydd ganddyn nhw yn gwaethygu.

Mae’r ymchwil hefyd yn nodi bod:

  • dynion yn fwy tebygol o fod yn dioddef o gyflwr arall pan maen nhw’n derbyn diagnosis;  
  • tua chwarter o bobol sy’n dioddef o ganser y coluddyn yn dioddef o salwch neu gyflwr difrifol arall wrth dderbyn diagnosis;
  • pobol â chanser yr ysgyfaint yn fwy tebygol o ddioddef o salwch eisoes adeg diagnosis o gymharu â phobol sy’n dioddef o fathau eraill o ganser;
  • dynion sy’n byw gyda/goroesi canser yn fwy tebygol o fod yn dioddef o glefyd siwgr, tra bo merched sy’n byw gyda/goroesi canser yn fwy tebygol o fod â salwch resbiradol.

Helpu’r Gwasanaeth Iechyd

“Mae Macmillan eisiau i bobol gyda chanser fyw eu bywydau mor llawn ag sydd yn bosib, a’n gobaith yw bod yr ymchwil yma’n amlygu i’r gweithwyr iechyd proffesiynol a’r cynllunwyr gofal canser sawl unigolyn sydd yn byw gyda chyflwr neu salwch arall wrth gael diagnosis o ganser,” meddai Richard Pugh o Gymorth Canser Macmillan.

“Mae Macmillan eisiau i bob unigolyn gyda chanser gael gofal fel person cyflawn ac i dderbyn triniaeth canser o’r safon uchaf bosib, sydd yn eu galluogi i reoli eu salwch presennol yn effeithiol.

“Byddem hefyd yn annog pobol sydd â chyflwr arall eisoes i beidio ag anwybyddu unrhyw symptomau newydd sydd yn datblygu ac i siarad gyda’u Meddyg Teulu er mwyn derbyn cyngor.”