Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i oleuadau a generadur cael eu dwyn o adeilad yn Aberaeron.

Cafodd y generadur a’r chwe golau halogen eu dwyn o Neuadd Ficrej Min Aeron, adeilad sy’n cael ei adnewyddu ar hyn o bryd.

Fe ddigwyddodd y lladrad rywbryd rhwng dydd Gwener, Mawrth 1, a dydd Llun, Mawrth 4.