Mae dyn wedi cael dedfryd o garchar am oes am drywanu dyn i farwolaeth yn Nhredegar Newydd y llynedd.

Roedd Ieuan Harley, 23, wedi lladd David Gaut ar ôl ei drywanu 150 o weithiau wedi iddo ddarganfod ei fod wedi’i garcharu am ladd bachgen 15 mis oed o’r enw Chi Ming Shek yn 1985.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd heddiw (Dydd Llun, Mawrth 25), fod David Gaut wedi cael ei ladd yn fflat ei gymydog cyn cael ei drywanu 26 gwaith.

Cafwyd dau ddyn arall, David Osborne, 51, a Darran Evesham, 47, yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder ar ôl symud corff David Gaut yn ôl i’w gartref ar Long Row, Tredegar Newydd.

Daeth yr heddlu o hyd i fag yn ddiweddarach yn cynnwys dillad a gwaed arnyn nhw ger y safle lle cafodd David Osborne a Darran Evesham eu gweld ar gamerâu yn cerdded ar noson y digwyddiad.

Cafwyd Ieuan Harley yn euog o lofruddiaeth a gwyrdroi cwrs cyfiawnder a Darran Evesham yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Cafwyd David Osborne yn ddieuog o lofruddiaeth ar ôl iddo gyfaddef gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd Darran Evesham ei garcharu am dair blynedd a chwe mis, tra bod David Osborne wedi cael dedfryd o ddwy flynedd a phedwar mis dan glo.

Dywedodd yr erlynydd Ben Douglas-Jones QC fod gan Ieuan Harley hanes o ymosod ar ddynion roedd o’n eu hamau o fod wedi cam-drin plant.