Gareth Bale - chwaraewr cymreig y flwyddyn
Mae Gareth Bale wedi’i enwi’n chwaraewr y flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol yng Ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru heno.

Mae Bale yn cael ei wobrwyo am ei berfformiadau trawiadol dros ei glwb Tottenham Hotspur, ac wrth gwrs Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn y cyfnod dan sylw mae Bale wedi sefydlu ei hun fel un o dalentau ifanc mwyaf cyffrous Ewrop, gan sgorio deg gôl i Spurs yn cynnwys hat-trick bythgofiadwy yn erbyn Inter Milan yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Heb os, mae’n rhan allweddol o gynlluniau Gary Speed gyda Chymru, ac roedd ei berfformiadau diweddar i Gymru’n erbyn Montenegro a Lloegr gyda’i orau dros ei wlad.

Cydnabod campau Abertawe

Yn y prif wobrau eraill, cafodd dau o chwaraewyr Abertawe eu gwobrwy – yr amddiffynnwr Ashley Williams yn chwaraewr clwb y flwyddyn, a’r chwaraewr canol cae Joe Allen yn chwaraewr ifanc y flwyddyn.

Mae Williams hefyd yn cipio’r teitl Chwaraewr Clwb am yr ail flwyddyn o’r bron.

Cafodd Jessica Fishlock  o Academi Bryste ei henwi’n chwaraewr y flwyddyn y merched, tra bod cyn chwaraewr Man UTD, Mickey Thomas yn derbyn y wobr am wasanaeth i’r Gymdeithas.

Rhestr lawn enillwyr:

Chwaraewr y Flwyddyn (dynion) – Gareth Bale

Chwaraewr y Flwyddyn (merched) – Jessica Fishlock

Chwaraewr y Flwyddyn y cefnogwyr – Gareth Bale

Gwasanaeth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (dynion) – Mickey Thomas

Gwasanaeth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (merched) – Karen Jones MBE

Chwaraewr clwb (dynion) – Ashley Williams

Chwaraewr clwb (merched) – Amie Lea

Chwaraewr ifanc (dynion) – Joe Allen

Chwaraewr ifanc (merched) – Nia Jones

Chwaraewr Clwb (Uwch Gynghrair Cymru) – Gary Lloyd