Mae dyn 23 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio achosi niwed corfforol difrifol ac o fod o ag arf yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad ym Mhwllheli ddydd Sadwrn (Mawrth 23).

Cafodd swyddogion arfog eu galw i stad Bro Cynnan yn y dref tua hanner dydd gan rybuddio pobol i gadw draw o’r ardal.

Mae’r dyn, sy’n lleol i ardal Pwllheli, yn cael ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys Ynadon Llandudno heddiw (Dydd Llun, Mawrth 25).