Bydd aelodau Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) dros Gymru gyfan yn streicio yfory i brotestio yn erbyn cynlluniau Llywodraeth San Steffan i dorri pensiynau.

Gwnaed y penderfyniad i streicio gan Gyngor Cenedlaethol UCAC, ar sail canlyniad balot oedd yn dangos 89% o blaid gweithredu diwydiannol.

“Mae bwriad y Llywodraeth i waethygu telerau pensiwn yn gwbl ddianghenraid ac yn hollol annheg. Mae gofyn i athrawon a darlithwyr dalu mwy bob mis, gweithio tan eu bod yn 68, a hyd yn oed wedyn derbyn llai o bensiwn yn dangos diffyg dealltwriaeth o natur y proffesiwn, a diffyg parch llwyr i addysgwyr,” meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

‘Twll ariannol bancwyr yw’r broblem’

“Mae’r Cynllun Pensiwn Athrawon yn gynaliadwy. Nid dyna’r broblem. Y twll ariannol a wnaed gan y bancwyr yw’r broblem – ond nid yw’r Llywodraeth yn fodlon cyfaddef hynny.

“Nid yw athrawon yn ymgymryd yn ysgafn â streic; rydym yn ymwybodol o effaith streic ar addysg disgyblion ac ar fywydau rhieni. Ond rydym yn pryderu y gallai’r ymosodiad hwn ar bensiynau effeithio ar safonau yn y system addysg – drwy wneud addysgu’n broffesiwn llai atyniadol – a gwyddom fod hynny’n destun pryder i rieni hefyd,” meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol.

Bydd ysgolion ar gau’n llwyr, neu ar gau i rai dosbarthiadau, ym mhob rhan o’r wlad wrth i aelodau’r undeb ddangos eu dicter at gynlluniau’r Llywodraeth.

Bydd effaith y streic yn taro Colegau Addysg Bellach ym Mhrifysgolion Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC); Prifysgol Cymru Casnewydd; Prifysgol Glyndŵr; Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: Campws Caerfyrddin; Prifysgol Fetropolitan Abertawe; a Phrifysgol Morgannwg.

Ail streic?

Fe ddywedodd swyddog polisi UCAC wrth Golwg360 fod “posibilrwydd” o ragor o weithredu os na fydd y Llywodraeth yn “cyfaddawdu rywfaint” ac yn “dangos ewyllys da.”

“Ry’ ni’n gobeithio y bydd y cyfuniad o’r trafodaethau gyda’r Llywodraeth yn Llundain gyda gweithredu diwydiannol yn golygu y bydd y Llywodraeth yn fodlon cyfaddawdu rywfaint yn y cynigion maen nhw’n wneud.

“Os na fydd y Llywodraeth yn dangos ewyllys da o ran y trafodaethau a pharodrwydd i drafod go iawn ar sail gwybodaeth ddibynadwy – mae’n bosibl iawn y bydd ‘na ragor o weithredu,” meddai gan ddweud bod y TUC wedi enwi dyddiad posibl sef  30 Tachwedd.

Mae gan UCAC yr hawl i streicio eto, meddai os yw’r undeb yn barnu bod angen gwneud hynny oherwydd eu bod wedi “pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol bylchog.”

“Ar ôl gweithredu’r tro cyntaf – mae geiriad y balot yn caniatáu i ni gynnal rhagor o ddiwrnodau petai angen,” meddai.