Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o anafu ac o fod ag arf yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad ym Mhwllheli ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 24).

Cafodd swyddogion arfog eu hanfon i’r digwyddiad ar stad Bro Cynan, Pwllheli tua hanner dydd ddoe a chafodd y cyhoedd eu rhybuddio i gadw draw o’r ardal.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd bod dyn bellach wedi cael ei arestio ac maen nhw wedi diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd.