Mae rhaglen arbennig yn y gyfres Ffermio yr wythnos nesa’ yn holi a oes gan Gymru wersi i’w dysgu gan wlad a welodd gymorthdaliadau yn diflannu yn llwyr dros 30 mlynedd yn ôl.

Hyn wrth i’r diwydiant amaeth a chymunedau cefn gwlad yma wynebu cyfnod o newid mawr os bydd y Deyrnas Gyfunol yn tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Y ffermwr mynydd, Gareth Wyn Jones, sy’n ymweld â Seland Newydd ac yn holi beth all Cymru ddysgu o brofiad pobl yng ‘Ngwlad y Cwmwl Hir Gwyn’. Fe fydd hefyd yn cwrdd â ffermwyr sydd yn wreiddiol o Gymru ac sy’n gallu son am eu profiadau nhw yn rhedeg busnesau ac yn gweithio yno.

“Mae pawb sydd wedi bod yno’n brolio sut maen nhw’n ffermio a sut maen nhw mor dda’n troi glaswellt mewn i gig da neu’n llefrith,” meddai Gareth Wyn Jones. “O’n i’n wir eisio ffeindio allan be’ ydi eu cyfrinach nhw, ac a ydyn nhw cystal am ffermio ag ydyn nhw am chwarae rygbi?

“Mi oedd hi’n dipyn o daith, yn bersonol inni fel teulu; mi oedd hi’n emosiynol iawn i weld y teuluoedd bach ar hyd y ffordd; teuluoedd o Gymru sydd eisio torri cwys newydd yn Seland Newydd, eisio gwneud bywoliaeth ac eisio gwella eu bywydau…”

Mae Gareth Wyn Jones yn ceisio darganfod beth all ffermwr yn yr ucheldir yng Nghymru ddysgu gan amaethwyr gollodd eu cymorthdaliadau yn 1984 ac a lwyddodd i wneud y wlad yn fwy cystadleuol ac arloesol. A all ffermwyr Cymru gyflawni gwyrth debyg?

Fe fydd y rhaglen Ffermio: Gareth yn Seland Newydd yn cael ei darlledu nos Lun, Mawrth 25 am 9.30yh ar S4C.