Heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 23), mae tad i dri yn gobeithio dringo i gopa Pen y Fan am y 365ed tro mewn blwyddyn, mewn ymgais i godi arian at ddau achos da.

Fe ddechreuodd Des Lally, 43, ar ei her ar Fawrth 28 y llynedd, ac mae hyd yma wedi codi £40,000 i’w rannu rhwng Ymchwil Canser a ‘Help for Heroes’.

Mae wedi gwneud ei holl waith cerdded tra ar yr un pryd yn dal ei swydd yn frocer yswiriant, yn ŵr ac yn dad i dri o blant. Mae wedi gorfod cerdded ambell waith yn hwyr yn y nos neu’n gynnar iawn yn bore – pan oedd hi’n dywyll – ac mae wedi cael pob math o dywydd a gwyntoedd i’w wyneb.

Yn yr haf, fe fu’n rhaid iddo roi’r gorau iddi oherwydd bod gwres llethol wedi ei wneud yn sâl. Ac er mwyn gallu cwblhau ei sialens, mae wedi gorfod cerdded i ben copa ucha’ de Cymru sawl gwaith yn yr un dydd.

“Ges i fy ysbrydoli i wneud hyn gan y ffaith bod fy rhieni, rhyngddyn nhw, wedi diodde’ o dri math gwahanol o ganser,” meddai Des Lally. “Ac fe druliodd fy nhad hefyd 26 mlynedd yn filwr gyda’r Irish Guards.

“Mae e jyst yn rhywbeth o’n i eisie ei wneud er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl. O’n i eisie gwneud rhywbeth oedd ychydig yn wahanol.”

Mae Des Lally wedi chwalu saith pâr gwahanol o drênyrs yn ystod y flwyddyn ddiwetha’, ac wedi cerdded cyfanswm o 1,360 o filltiroedd.

Ar ei daith olaf, fe fydd ei dad, Des Lally Snr, 78 oed, yn cadw cwmni iddo.