Mae gŵyl Gymraeg Caerdydd wedi ychwanegu noson at ei harlwy eleni.

Daw hyn ar ôl i Tafwyl dderbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, er mwyn ehangu ei dylanwad a’i hapêl.

Dros y blynyddoedd, mae’r ŵyl ddeuddydd wedi mynd o nerth i nerth, a’r llynedd fe dyrrodd dros 40,000 o bobol i’r digwyddiad yng Nghastell Caerdydd.

Ar gyfer eleni, mae’r trefnwyr – Menter Caerdydd – wedi ymuno â’r gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo artistiaid Cymraeg, PYST, i gyflwyno noson o gerddoriaeth, celfyddydau a bwyd stryd yng Nghastell Caerdydd.

Ymhlith y perfformwyr fydd Gwenno, Lleuwen a’r Band, Adwaith a Serol Serol, Y Niwl ac Ani Glass.

Bydd y noson ychwanegol, sydd â mynediad am ddim, yn cael ei chynnal ar nos Wener, Mehefin 21.