Jane Hutt
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi sut y bydd yn gwario cyllideb o £14 biliwn dros y tair blynedd nesa’.

Mae’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt wedi rhoi pwyslais ar hybu’r economi, addysg a’r gwasanaeth iechyd.

Fe fydd £75 miliwn yn cael ei wario ar gynllun i wella hyfforddiant i bobl ifanc, £55 miliwn i ehangu cynllun gofal plant am ddim, yn ogystal â £27m ychwanegol ar addysg a £288 miliwn ar y  gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae’r gwrthbleidiau wedi awgrymu nad ydy cynlluniau’r Llywodraeth yn mynd yn ddigon pell i hybu economi Cymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru: “Mewn cyfnod o argyfwng economiadd, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn awgrymu ein bod yn tocio’r gyllideb sydd  ar gael ar gyfer y Gweinidog Cyllid. Mae ei chyllid hi wedi gostwng o  £280m i £263m erbyn 2015.”

Roedd Peter Black, o’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn dweud bod y gyllideb yn rhy “wangalon” i wneud unrhyw wahaniaeth i Gymru.

Ond roedd Jane Hutt yn pwysleisio bod Llywodraeth Cymru, er gwaetha’r argyfwng economaidd, wedi rhoi blaenoriaeth i’r pethau hynny sydd o bwys i bobol Cymru.

Y cyhoeddiad heddiw yw’r cam cyntaf yng nghyllideb ddraft 2012/13. Dros yr wythnosau nesaf fe fydd cynlluniau’r Llywodraeth yn cael eu trafod cyn i fersiwn derfynol gael ei gyhoeddi.

Ym mis Rhagfyr fe fydd Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn y gyllideb.

Mae Alun Ffred Jones wedi beirniadu’r Llywodraeth am beidio ag ymgynghori mwy gyda’r gwrthbleidiau – fe fydd yn rhaid i Lafur gael cefnogaeth o leia’ un AC o blaid arall i sicrhau mwyafrif.