Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru, Christopher Davies, wedi pledio’n euog i ddau achos o roi gwybodath anghywir ar ffurflen dreuliau seneddol.

Roedd yr aelod tros Frycheiniog a Maesyfed yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw (dydd Gwener, Mawrth 22) pan gyflwynodd y blê.

Roedd y ddau gyhuddiad yn ymwneud â chyflwyno gwybodaeth ffug neu gamarweiniol wrth wneud cais am lwfans.

Fe gyfaddefodd Christopher Davies ei fod wedi gwneud cais am dreuliau seneddol ym mis Mawrth 2016, gan wybod bod yr anfoneb a gyflwynodd yn un “ffug neu’n gamarweiniol”.

Roedd yr ail gyhuddiad yn ymwneud â cheisio cyflwyno anfoneb debyg ym mis Ebrill 2016.

Cefndir

Mae Christopher Davies wedi bod yn cynrychioli Brycheiniog a Maesyfed yn San Steffan ers 2015, pan lwyddodd i faeddu’r Democrat Rhyddfrydol, Roger Williams, a fu’n dal y sedd ers 1983.

Ym mis Ionawr 2018, cafodd y cyn-gynghorydd sir ei benodi’n Ysgrifennydd Preifat i Swyddfa Gartref Cymru.

Cyn cychwyn ar yrfa mewn gwleidyddiaeth, bu Christopher Davies yn gweithio fel arwerthwr ac asiant eiddo yn ardal y Gelli Gandryll.