Bydd angladd y diweddar Aelod Seneddol Llafur, Paul Flynn, yn cael ei gynnal yn ninas Casnewydd yn ddiweddarach heddiw (dydd Gwener, Mawrth 22).

Bu farw’r aelod tros Orllewin Casnewydd ar Chwefror 17 yn dilyn cyfnod o salwch. Roedd yn 84 oed.

Bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ymhlith y galarwyr a fydd yn ymgynnull ar gyfer y gwasanaeth angladdol yn eglwys gadeiriol Casnewydd.

Mae yna adroddiadau y bydd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn bresennol hefyd.

Mae disgwyl i isetholiad Gorllewin Casnewydd gael ei gynnal ymhen pythefnos ar Ebrill 4.