Mae cyn-brifathro ysgolion cynradd yn ne Ceredigion wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd a thri mis o garchar ar ôl pledio’n euog i chwe chyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Roedd David Watkin Bundock, 74 oed, wedi cyfaddef bod ym meddiant lluniau anweddus o blant, gan gynnwys pedwar llun categori A – y math gwaethaf.

Roedd hefyd wedi cyfaddef ceisio cyfathrebu’n rhywiol â phlentyn a cheisio meithrin perthynas amhriodol â phlentyn.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y troseddau wedi cael eu cyflawni rhwng mis Hydref 2017 ac Ionawr 2019.

Cafodd Wat Bundock, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd ond yn dod o Lanwnnen ger Llanbed yn wreiddiol, ei anrhydeddu ag MBE yn 2004 am ei wasanaeth i addysg.

Cefndir 

Bu’n brifathro ysgolion cynradd yn ardaloedd Llandysul, Capel Dewi, Aberbanc a Phont-siân am gyfnod o 35 mlynedd, cyn dod yn arolygydd lleyg gydag Estyn.

Mae hefyd yn awdur llyfr ar hanes ardal Pont-siân, sef Crwydro Dyffryn Cletwr, a gafodd ei gyhoeddi yn 1979 adeg dathliadau canmlwyddiant yr ysgol gynradd leol.

Yn ogystal â chyfnod yn y carchar, mae ei enw hefyd wedi cael ei ychwanegu at gofrestr y troseddwyr rhyw a’i wneud yn destun gorchymyn atal niwed rhyw am gyfnod o ddeng mlynedd.