Mae Undeb Rygbi Cymru wedi prynu yr hen Swyddfa Bost ar Heol Westgate yng nghanol Caerdydd, gyda’r bwriad o droi’r adeilad yn westy moethus o fewn tafliad carreg i Stadiwm Principality.

Mae disgwyl i’r gwaith adnewyddu fod wedi’i gwblhau erbyn Rhagfyr 2020.

Mae’r Undeb yn gweithio gyda chwmni datblygu eiddo, Rightacres, ynghyd â’r cwmni yswiriant, Legal & General, i droi yr hen bost a’r hen swyddfa dreth a ddaeth wedyn yn County Court, yn ‘The Westgate Hotel’.

Yn y gwesty newydd, maen nhw’n gobeithio cadw’r elfennau hanesyddol, gan greu 165 o ystafelloedd, 15 o stafelloedd VIP, dau fwyty, spa a salon harddwch ar y to, yn ogystal ag ystafell ddigwyddiadau gyda lle i 400 o bobol.

“Mae Stadiwm Principality yn cael ei adnabod ledled y byd fel lle eiconig ar gyfer rygbi a nifer o chwaraeon eraill, digwyddiadau cerddorol phob math o ddigwyddiadau,” meddai Martyn Phillips, Prif Weithredwr, Undeb Rygbi Cymru.

“Mae datblygu’r gwesty newydd yma yn golygu y gallwn ni estyn allan a chynnig mwy o groeso i bobol sy’n dod i Gaerdydd. Mae’n ddatblygiad a fydd yn gwneud arian i ni, arian y gallwn ni ei fuddsoddi’n ôl i mewn i’r gêm ar bob lefel.”

Hanes yr hen Swyddfa Bost

Fe gafodd yr adeilad ei gynllunio yn 1893 gan Henry Tanner, Prif Bensaer y Frenhines Victoria, ac fe gafodd ei agor yn 1897 ar jiwbili deimwnt y frenhines;

Mae wedi’i gynllunio yn steil y Dadeni, a dyma’r adeilad cyntaf yng Nghaerdydd i gael ei godi â charreg Portland;

Fe gafodd yr hen swyddfa dreth, neu’r County Court, ei godi yn 1904 – yn yr un arddul â’r Post, ond gydag ychydig mwy o steil ‘welwch-chi-fi’.